Dyddiad yr Adroddiad

07/05/2022

Achos yn Erbyn

Practis Deintyddol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Cyfeirnod Achos

202201244

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs A am Ddeintydd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (“y Deintydd”). Dywedodd fod gwybodaeth anghywir a ddarparwyd yn ystod apwyntiad ym mis Mehefin 2019 wedi peri iddi gredu bod cais ei merch am driniaeth orthodonteg y GIG wedi cael ei wrthod am nad oedd yn bodloni’r Mynegai Angen Triniaeth. Dywedodd Mrs A, ar sail y wybodaeth hon, ei bod wedi penderfynu ceisio triniaeth breifat. Dywedodd Mrs A fod y GIG wedi dweud wrthi ym mis Medi 2021 bod y cais wedi cael ei wrthod oherwydd methiant y Deintydd i ddarparu’r gwaith papur cywir er mwyn prosesu’r cais.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd tystiolaeth i gefnogi bod Mrs A ar unrhyw adeg wedi cael gwybod mai’r rheswm dros wrthod y cais oedd oherwydd camgymeriad gweinyddol ar ran y Deintydd. Canfu hefyd nad oedd yr ymateb i’r gŵyn a gyflwynwyd i Mrs A gan y Deintydd yn cyfeirio at apwyntiad Mehefin 2019 o gwbl. Yn ogystal â hyn, canfu fod y wybodaeth yng nghofnodion merch Mrs A yn anghywir. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod tystiolaeth o gamweinyddu a chadw cofnodion gwael ar ran y Deintydd, a bod penderfyniad Mrs A i geisio triniaeth breifat ar gyfer ei merch wedi’i wneud ar sail gwybodaeth anghywir a roddwyd iddi ym mis Mehefin 2019.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Deintydd i ymddiheuro i Mrs A a’i had-dalu am y costau triniaeth breifat (£1800) a gafwyd mewn perthynas â thriniaeth orthodontig ei merch.