Dyddiad yr Adroddiad

11/14/2022

Achos yn Erbyn

Deintyddfa yn y DU

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Cyfeirnod Achos

202204986

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs L er ei bod wedi gwneud sawl cwyn ffurfiol i’r Practis Deintyddol dros y ffôn ac yn ysgrifenedig, nad oedd byth wedi cael ymateb i’r pryderon a fynegwyd ganddi ynglŷn â gofal deintyddol ei gŵr.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd cwyn Mrs L wedi cael sylw a bod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Mrs L.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i roi awdurdodaeth i Mrs L i weithredu ar ran ei gŵr, i gynnig ymddiheuriad am yr oedi ac i ymateb yn ffurfiol i’r gŵyn o fewn 30 diwrnod gwaith.