Dyddiad yr Adroddiad

08/04/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Cyfeirnod Achos

202202324

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod y Bwrdd Iechyd wedi gwrthod ymchwilio i’w chwyn ynghylch pam y cafodd hi a’i mab eu symud fel cleifion o ddeintyddfa yn ardal y Bwrdd Iechyd.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd roi ymateb ysgrifenedig pellach i Ms X (erbyn 23 Awst) a ddylai gynnwys ymddiheuriad am yr oedi ac am wrthod ymchwilio i’r mater hwn yn flaenorol.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hwn yn ddatrysiad priodol i’r gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.