Dyddiad yr Adroddiad

09/27/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202003746

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs H am y gofal a roddwyd i’w mam ddiweddar, Mrs B, gan ei meddygfa, sy’n cael ei rheoli’n uniongyrchol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd Mrs H yn poeni bod y feddygfa, rhwng mis Medi 2019 a mis Chwefror 2020 wedi colli cyfleoedd i gyflwyno atgyfeiriad priodol ac amserol i ofal eilradd a all fod wedi galluogi i’r gwaedu mewnol gael ei ganfod, a’i drin, yn gynt. Dyna achosodd farwolaeth Mrs B.

Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn. Daeth i’r casgliad nad oedd unrhyw arwyddion clinigol a allai fod wedi rhoi gwybod i glinigwyr yn y Practis bod Mrs B yn dioddef gwaedu mewnol, neu’n debygol o wneud. Roedd y camau a roddwyd ar waith gan y meddyg a welodd Mrs B yn briodol yn glinigol ar sail y dystiolaeth oedd ar gael iddi ar y pryd.

Fodd bynnag, nododd yr Ombwdsmon rai pwyntiau dysgu ynghylch rhoi prednisolon ar bresgripsiwn, ac a ddylai fod ystyriaeth ymhellach wedi cael ei rhoi gan y meddyg teulu am symptomau Mrs B, sef problemau anadlu a phrofion gwaed, wnaeth nodi lefelau uchel o lid, er ei fod yn fodlon na fyddai’r materion hyn wedi effeithio’r digwyddiadau. Awgrymodd y dylai’r Bwrdd Iechyd ofyn i’r meddyg teulu i fyfyrio ar y pryderon hyn a thrafod cynnwys ei adroddiad yn ei harfarniad nesaf, ac y dylai’r Bwrdd Iechyd gynnull cyfarfod Dadansoddi Digwyddiad Sylweddol yn y Practis i drafod yr adroddiad.