Dyddiad yr Adroddiad

09/16/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202102650

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y gofal deintyddol a roddwyd iddo gan y Bwrdd Iechyd pan roedd yn garcharor yn HMP Berwyn. Cwynodd pan gyrhaeddodd yn HMP Berwyn ar ddiwedd 2019, gofynnodd i gael gweld deintydd gan fod ei ddaint wedi torri, a’i fod mewn poen. Cafodd paracetamol ar bresgripsiwn am y boen, ond ni welodd ddeintydd tan haf 2020. Dywedodd ei fod wedi cwyno’n gyson am y boen yn ystod y cyfnod hwnnw. Dywedodd Mr A pan welodd y Deintydd, rhoddon nhw lenwadau dros dro iddo, oedd yn disgyn allan bob tro o fewn ychydig ddiwrnodau o’u gosod.

Daeth yr asesiad i’r casgliad, er bod y Bwrdd Iechyd wedi cael cyfle i ymateb i bryderon Mr A ynghylch y driniaeth ddeintyddol a dderbyniodd ar ôl yr apwyntiad cyntaf gyda’r Deintydd yn ystod haf 2020, nid oedd wedi cael cyfle i ymateb i’r pryderon am y cyfnod gofal cynt.

Er mwyn datrys hyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gynnal archwiliad i bryderon Mr A am y cyfnod gofal cyntaf ac i ymateb o fewn 3 mis. Pe byddai Mr A yn dal i fod yn anfodlon ar ôl derbyn ymateb gan y Bwrdd Iechyd, byddai’r Ombwdsmon yn agored iddo godi unrhyw bryderon i drafod unrhyw bryderon parhaus ynghylch y cyfnod gofal cyflawn dan sylw.