Dyddiad yr Adroddiad

05/06/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202006122

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am safon y gofal a roddwyd i’w fab gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ar ôl iddo gael anaf i’r ymennydd. Ar ôl derbyn ymateb y Bwrdd Iechyd i’w gŵyn, dywedodd Mr X ei fod wedi gofyn am gyfarfod i drafod y materion a oedd yn peri pryder.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi trefnu cyfarfod ar gyfer 16 Mawrth 2021, ond yna wedi canslo’r cyfarfod ar 12 Mawrth 2021. Methodd y Bwrdd Iechyd ag aildrefnu’r cyfarfod.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd a chytunodd i wneud y pethau canlynol o fewn 20 diwrnod gwaith:

· Trefnu cyfarfod wedi’i gofnodi’n briodol gyda Mr a Mrs X a’u cynrychiolydd cyfreithiol i drafod y gŵyn yn llawn ynghylch y driniaeth a roddwyd i’w mab.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon y byddai hyn yn datrys y materion a ystyriwyd yn y gŵyn hon.