Dyddiad yr Adroddiad

01/31/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202100433

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr A am ofal a thriniaeth ei fam (“Mrs A”) yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili (“yr Ysbyty”) yn dilyn archwiliad gastroscopi ym mis Rhagfyr 2019 lle cafodd ddiagnosis o dorgest fylchol (lle mae rhan o’r stumog yn chwyddo i’r frest). Roedd Mr A yn poeni nad oedd torgest ei fam yn cael ei rheoli na’i thrin. Dywedodd fod ymgynghoriad preifat ym mis Hydref 2020 wedi cadarnhau mai torgest fylchol oedd achos symptomau ei fam, ac y rhoddwyd cyngor iddi ar sut i’w rheoli.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod gofal Mrs A wedi bod yn rhesymol, yn briodol ac yn gyson ag arferion clinigol derbyniol. Nododd yr Ombwdsmon y cynigiwyd sgan CT arbenigol i Mrs A i asesu’r cyflenwad gwaed i’w choluddyn, sef y cam rhesymol nesaf wrth ganfod achos ei symptomau, ond penderfynodd Mrs A i beidio â’i dderbyn. Nododd y gofynnwyd hefyd i feddyg teulu Mrs A ragnodi meddyginiaeth yn barhaus ac i’w hadolygu. Cafodd Mrs A ei hatgyfeirio’n briodol at glinigwyr amrywiol a rhoddwyd cyngor dietegol iddi i reoli ei chyflwr. O ystyried y dystiolaeth a oedd ar gael, ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mr A.