Dyddiad yr Adroddiad

10/17/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202202596

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am safon y gofal a ddarparwyd i’w diweddar fam yn ystod 2 arhosiad yn yr ysbyty. Roedd ymateb y Bwrdd Iechyd i gŵyn yn ymwneud ag un o’r derbyniadau hynny yn nodi bod cofnodion clinigol wedi cael eu colli fel nad oedd modd rhoi ymateb llawn am y gofal a ddarparwyd.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd ynghylch hyn. O ganlyniad, cynhaliodd y Bwrdd Iechyd chwiliad pellach a chanfod y cofnodion coll. Felly, cytunodd i ddarparu ymateb ysgrifenedig ffurfiol pellach i Ms X o ran ei chŵyn am yr arhosiad cyntaf o fewn 4 wythnos i ddyddiad y penderfyniad hwn. Dylai’r ymateb hwn gynnwys ymddiheuriad pellach i Ms X ynghylch yr oedi a’r ansicrwydd a achoswyd gan y cofnodion oedd ar goll.