Dyddiad yr Adroddiad

05/26/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202102801

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr A am ofal a thriniaeth ei wraig ar ôl iddi anafu ei hysgwydd ar 23 Ionawr 2020. Cwynodd Mr A hefyd am y ffordd y deliodd y Bwrdd Iechyd â’i gŵyn. Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod gofal a thriniaeth Mr A yn rhesymol at ei gilydd. Fodd bynnag, gwelwyd diffygion yn ystod asesiad ar 24 Ionawr 2020, gan gynnwys defnyddio prawf diagnostig anghywir a methu â cheisio cydsyniad cyn gwneud archwiliad arwynebol. Er na fyddai’r cynllun trin na’r canlyniad wedi newid o’r herwydd, nid oedd Mrs A yn gallu gwneud penderfyniadau ar sail yr holl wybodaeth am ei thriniaeth i’r dyfodol ac fe wnaeth hynny achosi anghyfiawnder iddi. Cadarnhawyd cwyn Mr A i’r graddau hynny.
Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi sylw i bryderon Mr A pan gododd nhw i ddechrau’n uniongyrchol â’r Tîm Orthopaedig. At hynny, er bod y Bwrdd Iechyd wedi ymddiheuro am y diffyg, ni wnaeth fyfyrio ar yr hyn a ddigwyddodd na nodi unrhyw wersi i atal hyn rhag digwydd eto. Fodd bynnag, pan gododd Mr A ei bryderon yr ail waith, fe wnaeth y Bwrdd Iechyd gydnabod yn briodol y diffygion yng ngofal Mrs A gan weld cyfleoedd am ddysgu myfyriol ynglŷn ag asesu a chadw cofnodion. Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mr A i’r graddau y bu’n rhaid iddo gwyno eilwaith er mwyn cael ymateb priodol a bod hynny wedi achosi iddo golli hyder yn y broses a cholli amser a mynd i drafferth yn ddiangen.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr A am y methiannau wrth ddelio â’r gŵyn ac atgoffa’r Tîm Orthopaedeg o bwysigrwydd cofnodi asesiadau allweddol.