Dyddiad yr Adroddiad

02/23/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202006285

Canlyniad

Setliadau gwirfoddol

Cwynodd Ms P, ar ôl iddi gael ei hatgyfeirio i Gynaecoleg yn 2020 ac yn ystod ei derbyniadau i’r ysbyty ar ôl hynny, bod y Bwrdd Iechyd wedi methu ymchwilio i beth oedd yn achosi’r poen parhaus yn ei phelfis a sut i’w drin mewn modd prydlon a phriodol. Cwynodd hefyd nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cyfathrebu’n briodol â hi am ganlyniadau ymchwiliadau perthnasol a’r cynllun gofal ar ei chyfer a ddeilliodd ohonynt, ac nad oedd wedi darparu ymateb cywir a phriodol i’w chŵyn ffurfiol.

Canfu’r Ombwdsmon fod Ms P wedi cael ei hasesu a’i thrin yn briodol bob tro y cafodd ei gweld; heb lwyddo i ganfod achos y poen oedd Ms P yn ei gael, roedd yn briodol bod y rheini oedd yn gyfrifol am reoli ei gofal yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’i symptomau. Efallai y byddai llawdriniaeth archwiliadol a diagnostig yn datgelu rhywbeth mwy, ond nid oedd hyn ar gael yn sgil COVID-19. Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod Ms P wedi cael gwybod bod canlyniadau ei hymchwiliadau’n normal, ei bod wedi cael ei chynghori i ddychwelyd pe bai ei phoen yn gwaethygu eto, a’i bod wedi cael gwybod am gynllun yr Ymgynghorydd i reoli symptomau ei phoen yn y cyfamser. Yn y pen draw, gan fod canlyniadau ymchwiliad Ms P yn normal, nid oedd angen cymryd camau pellach, ac roedd ei thriniaeth a lefel y cyfathrebu a gynigiwyd o fewn terfynau ymarfer clinigol priodol.

Yn olaf, canfu’r Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn cyd-fynd â’i ganfyddiadau, ac felly’n briodol. Fodd bynnag, roedd anghysondebau rhwng yr ymateb i’r gŵyn a dilyniant y digwyddiadau yng nghofnodion Ms P, a oedd wedi tanseilio ffydd Ms P yn y Bwrdd Iechyd ar adeg pan oedd hi eisoes yn pryderu oherwydd nad oedd achos ei phoen wedi’i ganfod. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms P am hyn, ac i atgoffa staff perthnasol o bwysigrwydd cywirdeb eu hymateb i gŵyn.