Dyddiad yr Adroddiad

09/30/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202202451

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X am fethiant y Bwrdd Iechyd i gynnal ymchwiliad i’r pryderon a godwyd am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei diweddar ŵr, Mr X gan ei bractis meddyg teulu.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn mynd i’r afael yn llawn â’r materion a godwyd gan Mrs X.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb i’r materion perthnasol o fewn 20 diwrnod gwaith.