Dyddiad yr Adroddiad

02/24/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202107389

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w chŵyn mewn perthynas â chael meddyginiaeth yr oedd ganddi alergedd iddi. Cwynodd Mrs X hefyd fod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi llythyr ymateb iddi nad oedd wedi mynd i’r afael â’i chwyn ddiweddar, a’i fod, yn hytrach, wedi rhoi sylw i gŵyn hanesyddol o 2020.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd roi ymateb ysgrifenedig llawn i Mrs X (erbyn 7 Mawrth) ac y dylai hwn roi sylw i’w chŵyn. Dylai hefyd gynnwys esboniad ac ymddiheuriad am y dryswch a’r oedi cyn ymateb.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn yn ffordd briodol o ddatrys y gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.