Dyddiad yr Adroddiad

01/14/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202105913

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi methu ag ymchwilio’n iawn i honiad ei bod wedi’i cham-drin yn rhywiol, tra’n glaf mewnol. Dywedodd fod y diffyg dyletswydd gofal wedi arwain at beryglu ei chyflwr meddyliol.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu sawl ymateb i gŵyn Ms X, nid oedd wedi mynd i’r afael yn benodol â’r penderfyniad i beidio â riportio’r digwyddiad i’r heddlu, yr oedi ymddangosiadol wrth wneud atgyfeiriad diogelu ac a oedd ei benderfyniadau yn cyd-fynd â’i bolisi diogelu.

Roedd yr Ombwdsmon wedi gofyn i’r Bwrdd Iechyd roi ymateb ysgrifenedig pellach i Ms X o fewn 20 diwrnod gwaith, gan egluro ei benderfyniad i beidio â riportio’r digwyddiad i’r heddlu, yr oedi ymddangosiadol wrth wneud atgyfeiriad diogelu ac a oedd ei benderfyniadau yn cyd-fynd â’i bolisi diogelu, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.