Dyddiad yr Adroddiad

07/15/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

201905922

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A fod y Gastroenterolegydd Ymgynghorol (“y Gastroenterolegydd”) wedi methu â diagnosio ei cherrig bustl yn 2017 a gwrthododd ei diagnosis dilynol o ‘Laryngopharyeneal Reflux’ (“LPR” – ôl-lif cynnwys y stumog i fyny i’r bibell fwyd a’r holl ffordd i’r gwddf a/neu’r blwch llais). Cwynodd hefyd ei bod wedi cael gofal gwael yn y Clinig Mynediad Cyflym yn Ysbyty Glan Clwyd (“yr Ysbyty”) ar 26 Ebrill 2019. Yn olaf, cwynodd Mrs A nad oedd y modd yr ymdriniodd y Bwrdd Iechyd â’i chŵyn yn ddigonol.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon nad oedd symptomau clinigol Mrs A yn arwydd o gerrig bustl pan gafodd ei derbyn i’r Ysbyty yn 2017. Canfu’r ymchwiliad rai diffygion cyfathrebu gan y Gastroenterolegydd o ran diagnosis dilynol Mrs A o LPR, ond nododd fod y gamddealltwriaeth wedi codi oherwydd fod Mrs A yn ceisio gofal GIG a gofal preifat. Cafodd yr elfen hon o gŵyn Mrs A ei chadarnhau. O ran y gofal yn y Clinig Mynediad Cyflym, roedd yr Ombwdsmon yn fodlon fod yr Ymgynghorydd a oedd yn adolygu Mrs A wedi darparu gofal rhesymol a phriodol i ddiystyru emboledd ysgyfeiniol. Ni chafodd yr elfen hon o gŵyn Mrs A ei chadarnhau.

O ran delio â chwynion, canfu’r Ombwdsmon fod oedi gormodol wrth ymateb i gŵyn Mrs A a bod methiant y Bwrdd Iechyd i nodi meysydd lle gellid dysgu gwersi yn effeithio ar gadernid ei ymateb i gwynion. Oherwydd y methiannau hyn, bu Mrs A yn gohebu am gyfnod hir a hynny’n achosi anghyfiawnder iddi. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon a oedd yn cynnwys ymddiheuriad ysgrifenedig a thalu £250 i Mrs A am yr amser a’r drafferth yn ogystal â gwella’r prosesau ar gyfer ymchwilio i LPR a’i drin a gwaith amlddisgyblaethol agosach rhwng y timau Clust, Trwyn a Gwddf a Gastroenteroleg.