Dyddiad yr Adroddiad

11/28/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202102099

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms A nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi canfod natur gymhleth ei hesgoriad yn brydlon, nad oedd wedi rheoli’r esgoriad hwnnw’n briodol ac nad oedd wedi darparu gofal ôl-enedigol priodol iddi. Dywedodd nad oedd y Bwrdd Iechyd, ar ôl 3 diwrnod o ymweliadau â’r ysbyty a galwadau ffôn ganddi, wedi cwestiynu ei hesgoriad cymhleth. Awgrymodd ei fod wedi oedi’n ddiangen cyn cynnal toriad Cesaraidd a’i bod wedi datblygu cymhlethdodau o ganlyniad i’r modd roedd wedi rheoli ei hesgoriad. Dywedodd fod y gofal a gafodd ar ôl cael ei rhyddhau o’r ysbyty “y nesaf peth i ddim”. Mynegodd bryderon hefyd am ei harchwiliad ôl-enedigol 8 wythnos a’i bod wedi gorfod dychwelyd i’r ysbyty i gael gwrthfiotigau mewnwythiennol.

Nid oedd yr Ombwdsmon, er ei bod yn cydnabod bod esgoriad Ms A yn un anodd iawn iddi, o’r farn ei fod yn gymhleth. Ni chanfu felly nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi methu â chanfod natur esgoriad Ms A yn brydlon. Ni chadarnhaodd yr agwedd hon ar gŵyn Ms A. Canfu nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cydnabod yn llawn natur faith cyfangiadau poenus Ms A yn ystod cam cynnar iawn ei hesgoriad a bod yr anwaith hwnnw wedi ychwanegu at drallod Ms A. Roedd yn fodlon bod y ffordd roedd y Bwrdd Iechyd wedi rheoli esgoriad Ms A, ac eithrio’r mater o gydnabod a nodwyd, yn glinigol briodol. Cadarnhaodd y rhan o gŵyn Ms A a oedd yn ymwneud â rheoli ei hesgoriad, i raddau cyfyngedig iawn. Canfu fod y gofal ôl-enedigol a ddarparwyd i Ms A yn briodol. Ni chadarnhaodd yr elfen hon o gŵyn Ms A.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ysgrifennu at Ms A i ymddiheuro gan gydnabod y methiant a nodwyd ac i egluro’r rheswm am yr oedi cyn ysgogi (cychwyn yn artiffisial) ei hesgoriad. Gofynnodd iddo rannu ei hadroddiad ymchwilio â’r staff bydwreigiaeth priodol. Argymhellodd y dylai gymryd camau penodol i wella trefniadau gan Fydwragedd i gofnodi galwadau ffôn gan ddarpar famau yn ystod cam cynnar iawn eu hesgoriad. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu’r argymhellion hyn.