Dyddiad yr Adroddiad

11/15/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202204472

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X am nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i’w chŵyn, a gyflwynwyd ganddi ym mis Mai 2022.

Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am yr oedi a bod gweithredoedd y Bwrdd Iechyd wedi achosi anghyfleustra i Mrs X. I ddatrys y gŵyn, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs X ac i ymateb i’w chŵyn o fewn 12 diwrnod gwaith.