Dyddiad yr Adroddiad

10/14/2022

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202203482

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss S nad yw wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf ers iddi wneud ei chŵyn ym mis Gorffennaf 2021, ac nad yw wedi cael ymateb i’w chŵyn gan y Bwrdd Iechyd.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Miss S wedi cael ymateb i’w chŵyn eto. Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Miss S, o fewn 30 diwrnod gwaith, i ymddiheuro am yr oedi cyn cysylltu â hi a chyflwyno ymateb llawn i gŵyn Miss S erbyn 5 Rhagfyr 2022.