Dyddiad yr Adroddiad

08/10/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202201372

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) am y gofal a’r driniaeth a roddwyd i’w mam yn dilyn strôc. Nodwyd llawer o faterion, o ran urddas, cyfathrebu a gofal sylfaenol a waethygwyd oherwydd bod llai o gyfleoedd i ymweliad oherwydd cyfyngiadau Covid a’i mam yn symud ward bum gwaith.

Roedd ymchwiliad y Bwrdd Iechyd yn cynnwys adolygiad o’r cofnodion meddygol a thrafodaethau â staff allweddol a oedd yn ymwneud â gofal mam Mrs X. Cwynodd Mrs X i’r Ombwdsmon ei bod yn anfodlon ag ymateb y Bwrdd Iechyd i’w chwyn. Teimlai fod yr ymchwiliad wedi canfod methiannau ac wedi gwneud yn fach o’r gofal gwael a dderbyniwyd. Roedd Mrs X eisiau gweld gwelliannau mewn gofal, ymwybyddiaeth o agwedd a gwell sgiliau cyfathrebu a hyfforddiant. Nododd Mrs X ei barn ar faterion nad oedd yn teimlo bod y Bwrdd Iechyd wedi mynd i’r afael â hwy’n ddigonol.

Yn dilyn trafodaeth gyda’r Ombwdsmon, cytunodd y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn 20 diwrnod gwaith i benderfyniad yr Ombwdsmon, yn rhoi ymateb ysgrifenedig pellach i Mrs X ar y materion a godwyd, gan gynnwys tystiolaeth ei fod wedi cwblhau pwyntiau o’r cynllun gweithredu a amlinellwyd yn yr Adroddiad i’r Ymchwiliad.