Dyddiad yr Adroddiad

06/24/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202002601

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cafodd Mrs A colonosgopi ar 12 Mawrth 2020 yn Ysbyty Gwynedd. Cwynodd nad oedd rhwyg yn ei choluddyn wedi’i ganfod cyn iddi gael ei rhyddhau. Dywedodd Mrs A nad oeddent wedi ei chydnabod pan ddywedodd ei bod yn profi anesmwythdra yn ystod y broses ac na chafodd ei monitro’n ddigonol yn ystod ei hadferiad. Dywedodd Mrs A fod methiant i drwsio’r rhwyg ar unwaith. Dywedodd Mrs A fod trefniadau cadw cofnodion gwael ac annigonol wedi effeithio ar ei gofal. Yn olaf, cwynodd am y ffordd roedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â’i chŵyn ac am drylwyredd ei ymateb.

Am nad oedd dim dangosyddion clinigol a fyddai wedi arwain at amheuaeth fod Mrs A wedi dioddef rhwyg, daeth ymchwiliad yr Ombwdsmon i’r casgliad na fyddai modd i’r staff ei rhybuddio o hynny. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon hefyd bod Mrs A wedi cael ei monitro’n briodol cyn iddi gael ei rhyddhau. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon hefyd ei bod yn gwbl resymol i fod wedi aros i weld a fyddai’r rhwyg yn gwella ohono’i hun cyn cynnal llawdriniaeth, gan fod hynny’n gallu digwydd mewn achosion o’r fath. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod cofnodion clinigol Mrs A yn adlewyrchu’r canfyddiadau clinigol a’r gofal a roddwyd iddi a’u bod yn rhesymol a digonol. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon hefyd bod yr ymateb i’r gŵyn yn drylwyr ac ni chafodd yr agwedd hon ar gŵyn Mrs A ei chadarnhau.