Dyddiad yr Adroddiad

06/21/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202200863

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod coluddyn ei mam wedi gollwng ar ôl iddi gael llawdriniaeth ychydig cyn iddi farw. Roedd hefyd yn bryderus nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhyddhau ei mam o fewn digon o amser iddi allu marw gartref.

Canfu’r Ombwdsmon y gallai’r Bwrdd Iechyd fod wedi darparu esboniadau llawnach a fyddai, o bosib, wedi helpu Ms X i ddeall. Gofynnodd am gytundeb y Bwrdd Iechyd i roi mwy o wybodaeth i Ms X am y coluddyn yn gollwng ac am y broses rhyddhau. Yn benodol, gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ystyried a ellid cymryd unrhyw gamau fel nad oes unrhyw oedi yn digwydd eto wrth benderfynu rhyddhau rhywun o’r ysbyty, fel yr honnwyd iddo ddigwydd y tro hwn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi’r wybodaeth hon i Ms X o fewn 40 diwrnod gwaith.