Dyddiad yr Adroddiad

11/09/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202004970

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs X fod ei mab bach, Y, heb dderbyn diagnosis a/neu driniaeth priodol a rhesymol wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) rhwng Ionawr a Mawrth 2019. Cwynodd Mrs X hefyd fod y cyfathrebu rhwng aelodau’r teulu a staff y Bwrdd Iechyd yn wael ac na roddodd ystyriaeth i bryderon Mrs X.

Ni chadarnhawyd y gŵyn fod Y heb dderbyn diagnosis priodol, ar y sail fod cyflwr Y yn anarferol iawn a chafodd ddiagnosis o fewn 2 fis i’w eni. Canfu’r ymchwiliad y dylai Y fod wedi cael ei weld gan feddyg mwy profiadol, ond hyd yn oed pe bai hynny wedi digwydd, efallai na fyddai’r diagnosis cywir wedi’i wneud, a beth bynnag, byddai dal angen llawdriniaeth ar Y.

Cadarnhaodd yr ymchwiliad gŵyn Mrs X ynglŷn â chyfathrebu, ar y sail bod meddyg teulu Y wedi mynegi pryderon i’r Bwrdd Iechyd, bod staff o fewn y Bwrdd Iechyd wedi ail-atgyfeirio Y, a bod Mrs X wedi mynegi ei phryderon am gyflwr Y droeon. Achosodd hyn anghyfiawnder i Y a Mrs X, na fydd yn gwybod, pe bai Y wedi’i weld gan feddyg mwy profiadol y byddai ei gyflwr wedi’i drin yn gyflymach. Cadarnhawyd y gŵyn hon hefyd ar y sail na chafodd Mrs X ei hysbysu am gynlluniau i gludo Y i ysbyty plant nac ar ba sail roedd y trosglwyddiad hwnnw’n digwydd (nid fel achos brys) gan ei harwain i gredu’n ddiangen bod bywyd Y yn y fantol.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs X, a chadarnhau wrthi yr hyn y mae wedi’i wneud i sicrhau y gweithredir ei bolisi ar adolygu meddygon ymgynghorol sydd ar y wardiau’n rheolaidd, a’r hyn y mae wedi’i wneud i roi arweiniad i staff mewn perthynas â dogfennu tystiolaeth, fel ffotograffau, a ddarperir gan rieni, o fewn 3 mis.