Dyddiad yr Adroddiad

11/04/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202003385

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr Y fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) rhwng 21 Ionawr 2018 a 13 Tachwedd 2019, wedi methu â monitro ac ymchwilio i lefel ei PSA cynyddol yn briodol (antigen sy’n benodol i’r prostad – nid yw prawf PSA yn brawf penodol ar gyfer canser y prostad ond yn arwydd o risg o ganser; gall lefel PSA uwch ddangos canser y prostad). Ym mis Medi 2019, datgelodd archwiliadau dystiolaeth o ganser y prostad metastatig (canser sydd wedi lledaenu o’r safle gwreiddiol). Credai Mr Y y cafwyd oedi gyda’r diagnosis, ac y dylai fod wedi cael cynnig sgan delweddu cyseiniant magnetig (MRI) (math o sgan sy’n defnyddio meysydd magnetig cryf a thonnau radio i gynhyrchu delweddau manwl o du mewn y corff) fel rhan o’r ymchwiliadau i’w lefel PSA cynyddol, a allai fod wedi arwain at ddiagnosis cynharach.

Canfu’r Ombwdsmon, rhwng Ionawr 2018 a Mawrth 2019, fod Mr Y wedi derbyn gofal clinigol ac archwiliadau priodol. Roedd hefyd yn fodlon nad oedd unrhyw arwydd clinigol am sgan MRI. Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon, er bod y lefel PSA yn 66 ym mis Mawrth 2019, methwyd â chydnabod arwyddocâd y cynnydd hwn, ac o ganlyniad, cafwyd oedi o 6 mis cyn i Mr Y gael diagnosis a thriniaeth briodol. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon bod y methiant i nodi arwyddocâd y PSA cynyddol yn fethiant yn y gwasanaeth a arweiniodd at anghyfiawnder i Mr Y gan fod ei driniaeth wedi’i oedi 6 mis.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr Y am y methiant a nodwyd, i rannu’r adroddiad gydag un o’r ymgynghorwyr triniaethau i fyfyrio arno ac i ddysgu wrtho, ac adolygu ei ddefnydd o feddygon ymgynghorol locwm.