Dyddiad yr Adroddiad

08/27/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202002703

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr Y fod y Bwrdd Iechyd:

(a) Wedi methu adrodd ar y pelydr-X a gymerwyd yng ngŵydd ei wraig (Mrs Y) yn Adran Achosion Brys Ysbyty Glan Clwyd (“ED”) ar 26 Hydref 2019. Dywedodd fod hyn yn golygu oedi gyda rheolaeth feddygol briodol a arweiniodd at dderbyn i ED eto ar 4 Tachwedd. Petai Mrs Y wedi cael ei derbyn ar gyfer ymchwiliadau pellach ar 26 Hydref, dywedodd y byddai wedi cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint a metastasisau’r ymennydd yn gynt ac y byddai Mrs Y wedi cael triniaeth a fyddai wedi ei hatal rhag cael strôc (y rheswm dros ei derbyn ar 4 Tachwedd).

(b) Trafod prognosis Mrs Y/penderfyniad i beidio â cheisio dadebru cardio-anadlol gyda hi ar 26 Tachwedd heb i aelod o’r teulu fod yn bresennol, a dywedodd Mr Y bod hynny yn groes i ddymuniadau Mrs Y fel y nodwyd yn ei chofnodion ar 20 Tachwedd.

Daeth ei gŵyn am briodoldeb y penderfyniad i drosglwyddo Mrs Y i ysbyty arall ar gyfer profion gwaed ym mis Tachwedd 2019 i ben drwy ddatrys y mater yn gynnar yn ystod yr ymchwiliad.

Dyfarnodd yr Ombwdsmon fod y gŵyn wedi’i chyfiawnhau (a). Canfu fod yna fethiant i roi gwybod am y pelydr-X a oedd yn golygu oedi cyn cael diagnosis a mewnbwn clinigol. Fodd bynnag, gan ystyried cyngor proffesiynol, canfu na fyddai hyn wedi atal gwendid/symptomau Mrs Y a gyflwynwyd ganddi ar 4 Tachwedd; roedd y rhain o ganlyniad i ledaeniad canser i’w hymennydd.

Dyfarnodd yr Ombwdsmon nad oedd cyfiawnhad dros gŵyn (b); nid oedd unrhyw gyfeiriadau yng nghofnodion Mrs Y i gefnogi’r gŵyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro a chymryd camau i sicrhau bod y gwaith o reoli ymchwiliadau radiolegol yn unol â’r canllawiau perthnasol.