Dyddiad yr Adroddiad

02/24/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202207301

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb iddo i’w gŵyn ynghylch llawdriniaeth ar ei ben-glin oedd yn honedig yn aflwyddiannus.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod yn ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn, a achosodd rwystredigaeth i Mr X a’i arwain at gysylltu â’r Ombwdsmon. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i gyhoeddi ei ymateb i’r gŵyn yn brydlon o fewn 7 diwrnod gwaith.