Dyddiad yr Adroddiad

02/01/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202106678

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs B am y gofal a ddarparwyd i’w mam, Mrs C, gan y Bwrdd Iechyd ar ôl iddi gael ei derbyn i Ysbyty Brenhinol Gwent ym mis Hydref 2020. Yn benodol, roedd hi’n bryderus bod y:
a) Bwrdd Iechyd wedi methu ag asesu a thrin anghenion ymataliaeth Mrs C yn briodol er mwyn ei rhyddhau’n amserol.
b) Roedd staff meddygol wedi methu cynnwys Mrs B, deiliad Atwrneiaeth Arhosol, mewn trafodaethau am anghenion meddygol Mrs C yn unol â pholisi dementia’r Bwrdd Iechyd.
c) Methwyd â darparu gofal priodol i Mrs C ar ôl iddi gael ei rhoi ar lwybr gofal diwedd oes.
Canfu’r ymchwiliad na chollodd y Bwrdd Iechyd gyfleoedd i ryddhau Mrs C. Fodd bynnag, cadarnhawyd rhan gyntaf y gŵyn i’r graddau cyfyngedig y methwyd ag ystyried sut i reoli rhwymedd Mrs C a darparu triniaeth gynharach a allai fod wedi lleddfu ei symptomau. Canfu’r ymchwiliad y bu methiant i gyfathrebu’n briodol â Mrs B am gyflwr Mrs C ar ôl 5 Tachwedd a effeithiodd yn negyddol ar y gofal a ddarparwyd. Yn unol â hynny, cafodd y rhan honno o’r gŵyn ei chadarnhau hefyd. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn am ofal diwedd oes Mrs C, oherwydd canfu’r ymchwiliad fod y gofal a ddarparwyd yn briodol ac yn unol â’r canllawiau perthnasol.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs B am ei fethiannau ac atgoffa staff nyrsio perthnasol o’r safonau disgwyliedig mewn perthynas â gofal dementia a hydradu. Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd atgoffa meddygon perthnasol o bwysigrwydd rheoli iechyd y coluddyn yn briodol a chyfathrebu’n dda â theuluoedd cleifion sydd â dementia.