Dyddiad yr Adroddiad

06/23/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202201027

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Er gwaethaf iddo gyfathrebu sawl gwaith â’r Bwrdd Iechyd, cwynodd Mr X nad oedd wedi cael cydnabyddiaeth eto nac ymateb i’w gŵyn.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr X wedi cael ymateb eto gan y Bwrdd Iechyd, a chysylltodd â’r Bwrdd. Yn lle ymchwiliad, cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi ymateb ffurfiol i Mr X erbyn 30 Mehefin 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel ffordd o ddatrys cwyn Mr X.