Dyddiad yr Adroddiad

02/01/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202100417

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr E am yr oedi a fu rhwng ei atgyfeiriad cychwynnol gan ei feddyg teulu i’r Bwrdd Iechyd ym mis Medi 2019, ar gyfer trin ei Carsinoma Celloedd Gwaelodol (“BCC” – sef briw neu dyfiant bach – y math mwyaf cyffredin o ganser y croen), a’i driniaeth ym mis Mai 2021. Teimlai fod gormod o oedi wedi bod, a bod hyn wedi golygu bod angen llawdriniaeth fwy arbenigol a sylweddol arno na phe bai wedi cael ei weld yn gynharach.

Canfu’r ymchwiliad, er y bu’n rhaid i Mr E aros yn hwy o lawer na’r amseroedd targed perthnasol, roedd hyn yn bennaf oherwydd pandemig Covid-19, a oedd wedi cyfyngu’n sylweddol ar yr holl apwyntiadau dermatoleg dros y cyfnod hwnnw, gan mai dim ond trin canserau brys (sy’n fygythiad i fywyd) oedd polisi’r Bwrdd Iechyd ar y pryd. Nid oedd digon o dystiolaeth ar gael i ganfod pa mor gynnar y byddai’n rhaid i Mr E fod wedi cael ei weld i gael llawdriniaeth a fyddai, efallai, wedi bod yn llai ymwthiol, ac roedd ffactorau fel safle a siâp y BCC yn golygu efallai y byddai’r llawdriniaeth fwy arbenigol wedi bod yn angenrheidiol beth bynnag. Felly nid oedd yr Ombwdsmon wedi cadarnhau’r elfennau hyn o’r gŵyn. Bu’r Ombwdsmon hefyd yn ystyried a oedd y cyfathrebu a fu â Mr E am ei atgyfeiriadau wedi bod yn ddigonol, a chanfu nad oeddynt. Gan fod Mr E wedi dangos ei fod yn fodlon talu’n breifat am ran o’i driniaeth, pe bai wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am faint o amser y gallai fod wedi gorfod aros, efallai y byddai wedi ystyried triniaeth breifat yn gynharach. Roedd hyn felly’n anghyfiawnder i Mr E, a chafodd yr agwedd hon ar y gŵyn ei chadarnhau’n rhannol.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr E am y diffyg cyfathrebu ynghylch yr oedi â’i apwyntiad, a chynnig £250 iddo i gydnabod ei amser a’i drafferth wrth fynd ar drywydd ei atgyfeiriadau. Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd egluro yn ei lythyrau dermatoleg cychwynnol y gallai’r amser aros am rai gwasanaethau fod yn sylweddol fwy na’r amseroedd targed a nodwyd gan y GIG, a’i fod yn ystyried rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i bob claf dermatoleg sydd wedi bod yn aros mwy na’r amseroedd targed, a darparu esboniadau cliriach i achwynwyr ynghylch sut yr effeithiodd cyfyngiadau Covid-19 ar eu triniaeth, pan yn briodol.