Dyddiad yr Adroddiad

01/28/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202100417

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr E am yr oedi rhwng atgyfeiriad cychwynnol ei feddyg teulu i’r Bwrdd Iechyd ym mis Medi 2019, i drin ei Garsinoma Celloedd Gwaelodol (“BCC” – nam bach neu dyfiant, sef y math mwyaf cyffredin o ganser y croen), a’i driniaeth ym mis Mai 2021. Teimlai bod yr oedi’n ormodol, a hefyd ei fod yn golygu bod angen llawdriniaeth fwy arbenigol a sylweddol arno na phe byddai wedi cael ei weld yn gynharach.

Canfu’r ymchwiliad, er bod Mr E wedi gorfod aros yn sylweddol hirach na’r amseroedd targed perthnasol, roedd hynny’n bennaf oherwydd y pandemig Covid-19, a wnaeth gyfyngu’n sylweddol ar yr holl apwyntiadau dermatoleg yn ystod y cyfnod hwnnw, gan mai polisi’r Bwrdd Iechyd oedd trin y canserau brys (lle mae bywyd yn y fantol). Nid oedd digon o dystiolaeth ar gael i sefydlu pa mor gynnar y byddai’n rhaid i Mr E fod wedi cael ei weld i fod wedi cael llawdriniaeth llai ymledol o bosib, a bod ffactorau fel lleoliad a siâp y BCC, yn golygu y gallai fod angen y llawdriniaeth fwy arbenigol beth bynnag. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfennau hyn o’r gŵyn. Ystyriodd yr Ombwdsmon hefyd a oedd y cyfathrebu â Mr E ynglŷn â’i atgyfeiriadau yn ddigonol, a chanfu nad oedd yn ddigonol. Roedd Mr E wedi dangos ei fod yn barod i dalu’n breifat am ran o’i driniaeth, pe bai wedi’i ddiweddaru ynglŷn â pha mor hir y byddai’n rhaid iddo aros, efallai y byddai wedi ystyried triniaeth breifat yn gynharach. Roedd hyn yn anghyfiawnder i Mr E, a chadarnhawyd yr elfen hon o’r gŵyn yn rhannol.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr E am y diffyg cyfathrebu ynglŷn â’r oedi i’w apwyntiad, ac i roi £250 iddo i gydnabod yr amser a’r drafferth o orfod mynd ar drywydd ei atgyfeiriadau. Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd y dylai’r Bwrdd Iechyd ei gwneud hi’n glir yn eu llythyrau dermatoleg cychwynnol y gallai’r aros am rai gwasanaethau fod yn sylweddol hirach na’r amseroedd taged a ddyfynnir gan y GIG, a’i fod yn ystyried diweddaru holl gleifion dermatoleg sydd wedi bod yn aros yn hirach na’r amseroedd targed, a rhoi esboniadau cliriach i’r rhai sy’n cwyno ynglŷn â sut mae cyfyngiadau Covid-19 wedi effeithio ar eu triniaeth, lle bo’n briodol.