Dyddiad yr Adroddiad

01/26/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202006105

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs C am y gofal a’r driniaeth a dderbyniodd ei gŵr, Mr C, yn Ysbyty Brenhinol Gwent rhwng 23 Tachwedd a 4 Rhagfyr 2018. Yn benodol, roedd hi’n anhapus gyda’r broses o fonitro lefelau potasiwm Mr C, y gofal cyn ac ar ôl ei 2 ataliad y galon a’r penderfyniadau o ran y problemau ceulo a brofodd yn ystod ei gyfnod yn yr ysbyty.

Canfu’r Ombwdsmon fod y broses o fonitro lefelau potasiwm Mr C yn briodol, a chyn i Mr C gael 2 ataliad y galon, nid oedd y lefelau ar lefel lle byddai ataliad wedi cael ei ystyried yn risg uchel. Canfu’r Ombwdsmon hefyd fod y problemau ceulo a brofodd Mr C pan roedd yn derbyn dialysis heb achosi unrhyw gymhlethdodau ar ôl hynny.

Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mrs C.