Dyddiad yr Adroddiad

12/09/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202104832

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cafodd tad Mrs Z, oedd â nifer o gyflyrau iechyd gan gynnwys clefyd Parkinson, ei dderbyn i’r ysbyty ar 7 Hydref 2021 gyda phroblem crynhoi wrin. Profodd yn negatif am Covid-19 pan gyrhaeddodd yr ysbyty ond roedd prawf pellach ar 19 Hydref yn bositif. Yna dirywiodd ei gyflwr a bu farw ar 22 Hydref, gyda Covid-19 wedi’i gofnodi fel achos ei farwolaeth. Yn ddiweddarach, cwynodd Mrs Z i’r Bwrdd Iechyd am ei ofal a’r diffyg cyfathrebu â’r teulu yn ystod arhosiad ei thad. Cwestiynodd hefyd sut y gallai ei thad, fel claf risg uchel yn derbyn gofal ar ward ar wahân, fod wedi cael Covid-19. Yn ei ymateb ym mis Mai 2021, roedd y Bwrdd Iechyd wedi nodi llinell amser ei dderbyn i’r ysbyty gan nodi, oherwydd bod ei thad wedi’i weld gan nyrsys ardal cyn ei dderbyn i’r ysbyty, y gallai fod wedi cael Covid-19 yn y gymuned. Ar 22 Mehefin 2021, ysgrifennodd Mrs Z unwaith eto at y Bwrdd Iechyd yn cwestiynu’r esboniad ac yn gofyn cwestiynau pellach, ar ôl iddi archwilio ei gofnodion meddygol, am y ffordd y cafodd clefyd Parkinson ei thad ei reoli, pam na chafodd y teulu wybod yn ddi-oed bod ei gyflwr yn dirywio a chael cynnig cyfle i ddod i’w weld. Cwynodd i’r Ombwdsmon ym mis Hydref 2021 nad oedd wedi cael ymateb i’r llythyr hwnnw. Dangosodd y dogfennau a welodd yr Ombwdsmon mai ychydig iawn a wnaed i ymateb i’r pryderon diweddarach ond ei bod yn ymddangos bod cyfle o hyd i’r Bwrdd Iechyd roi sylw i bethau. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i gynnig yr Ombwdsmon y dylai ystyried y cwestiynau a godwyd am sut y cafodd dad Mrs Z Covid-19; y ffordd y deliwyd â chlefyd Parkinson y claf a’r cyfathrebu gyda’i deulu, a rhoi ymateb llawn a manwl i Mrs Z o fewn deufis. Cytunodd hefyd, o ystyried yr oedi a wynebodd yn barod, i gynnig taliad ex-gratia o £250 iddi’n ymddiheuro am hynny ac am beidio ei diweddaru’n briodol.

Ym marn yr Ombwdsmon, roedd hyn yn rhesymol er mwyn setlo cwyn Mrs Z.