Dyddiad yr Adroddiad

10/01/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202103201

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymchwilio i’w gŵyn. Roedd ei gŵyn, a wnaed ym mis Hydref 2020, yn cwyno fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi diagnosis bod ei wraig wedi torri asgwrn top ei choes ac am yr oedi i drin hylif ar ei hysgyfaint.

Roedd y Bwrdd Iechyd wedi gwneud ymchwiliad gan atgyfeirio’r canlyniad i’w Banel Unioni Cam i ystyried a oedd atebolrwydd dilys yn codi i’r Bwrdd Iechyd. Roedd y Panel Unioni Cam wedi ei atgyfeirio’n ôl at y Bwrdd Iechyd oherwydd nad oedd yr ymchwiliad yn ddigon trylwyr.

Casglodd yr Ombwdsmon fod oedi wedi bod ar ran y Bwrdd Iechyd ac nad oedd wedi cyfathrebu â Mr A (drwy ei eiriolwr) yn rheolaidd.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd a gytunodd i:

a) Rhoi blaenoriaeth i’r materion sydd heb eu cwblhau gan achosi oedi i ganlyniad yr ymchwiliad i’r gŵyn, er mwyn gallu penderfynu a fydd y Panel Unioni Cam yn ystyried y mater. Dylid cwblhau hyn o fewn 12 wythnos i ddyddiad y llythyr penderfyniad hwn.

b) Diweddaru’r achwynydd ar gynnydd y mater bob pedair wythnos hyd nes y bydd penderfyniad wedi’i wneud ar atgyfeirio’r ymchwiliad a gwblhawyd i’r Panel Unioni Cam.

Mae’r Ombwdsmon o’r farn y bydd hyn yn datrys y materion a godir yng nghwyn Mr A.