Dyddiad yr Adroddiad

01/10/2024

Achos yn Erbyn

Brwdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202204035

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss D fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, yn Nhachwedd 2021, wedi colli cyfleoedd i ganfod bod ei merch, E, yn dioddef llid y pendics (coden siâp bys yn ochr dde isaf yr abdomen yw’r pendics).

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon na fyddai disgwyl i glinigwyr y Bwrdd Iechyd ystyried llid y pendics fel diagnosis posibl rhwng 13 a 21 Tachwedd 2021, o ystyried symptomau E ar y pryd. Fodd bynnag, methwyd â sicrhau bod y penderfyniad i ryddhau E ar 14 Tachwedd wedi’i adolygu gan feddyg â phrofiad pediatrig priodol. Er na chanfu’r ymchwiliad y byddai clinigwr uwch wedi gweithredu’n wahanol, nac y byddai hyn wedi arwain at ganfod llid pendics E yn gynharach, canfu fod colli’r cyfle hwn am adolygiad pellach yn anghyfiawnder i E. I’r graddau cyfyngedig hynny, cadarnhawyd y gŵyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhellion yr Ombwdsmon. Roedd y rhain yn cynnwys ymddiheuro i Miss D ac atgoffa eu holl Dimau Meddygol na ddylid rhyddhau plant heb adolygiad gan glinigwr uwch priodol. Cytunwyd hefyd y byddent yn cynnal adolygiad ledled y Bwrdd Iechyd o’r polisïau, y gweithdrefnau a’r canllawiau sydd ar waith i gynorthwyo i adnabod a thrin llid y pendics yn ddi-oed ac yn cymryd camau priodol i wneud unrhyw welliannau sydd eu hangen yng ngoleuni’r pryderon blaenorol sydd wedi codi am berfformiad y Bwrdd Iechyd yn y maes hwn.