Dyddiad yr Adroddiad

02/14/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202005228

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Roedd Mr X yn 69 oed gyda hanes o sglerosis ymledol, hernia bylchol ac emboledd ysgyfeiniol blaenorol. Ar 25 Mawrth 2019, ar ôl i’w feddyg teulu atgyfeirio Mr X i Ysbyty Brenhinol Morgannwg (“yr Ysbyty”) gyda dryswch, deliriwm ac amheuaeth o haint y llwybr wrinol is, cafodd ei dderbyn. Yn anffodus, bu farw Mr X ar 19 Ebrill. Cwynodd Mrs X am driniaeth Mr X yn yr Ysbyty rhwng 25 Mawrth a 19 Ebrill.

Canfu’r Ombwdsmon fod triniaeth Mr X a’i reolaeth ar ward resbiradol yn rhesymol. Canfu hefyd ei fod wedi cael cymorth gyda deiet a hylif, bod y gofal nyrsio’n dda ac nid oedd unrhyw feirniadaeth o’r cyfathrebu rhwng nyrsys a meddygon.

Canfu’r Ombwdsmon bod methu â rhoi meddyginiaeth nebiwleiddwyr salbutamol, ni roddwyd meddyginiaeth Betmiga MR ac nid oedd ar gael ar 5 a 6 Ebrill, a bod y diffyg atgyfeiriadau ffisiotherapi a’r safbwyntiau anghyson ynghylch diwrnodau olaf bywyd Mr X yn fethiannau gwasanaeth ac ar y sail honno, cadarnhaodd y gŵyn yn rhannol.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i weithredu argymhellion yr Ombwdsmon ac ymddiheuro i Mrs X am y methiannau a nodwyd o fewn mis, ac o fewn 3 mis i adolygu pam nad oedd meddyginiaeth Betmiga MR ar gael, cymryd camau i atal ailadrodd a sicrhau cyfathrebu cyson yn ystod dyddiau olaf bywyd claf.