Dyddiad yr Adroddiad

12/21/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202105116

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â rhoi ymateb dilynol i’w gŵyn.

Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn poeni nad oedd Mr X wedi derbyn cydnabyddiaeth o’i e-byst nac ymateb dilynol. Yn lle cynnal ymchwiliad ac i setlo’r gŵyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud y canlynol erbyn 17 Ionawr 2022:
a) Ymddiheuro wrth Mr X am beidio ag ymateb i’w e-byst.
b) Talu £150 i Mr X i gydnabod y cyfathrebu gwael.
c) Rhoi ymateb dilynol i gŵyn Mr X.