Dyddiad yr Adroddiad

09/13/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202002383

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr B nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi gofal a thriniaeth briodol i’w bartner, Mr C. Yn benodol, cwynodd Mr B bod oedi o ran y Bwrdd Iechyd yn cynnal profion ac archwiliadau, ac nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cyfathrebu’n briodol â Mr C a’i deulu. Cwynodd Mr B hefyd nad oedd y clinigwyr gwahanol oedd ynghlwm wrth ofal Mr C wedi cyfathrebu’n briodol â’i gilydd.

Daeth archwiliad yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Bwrdd Iechyd wedi cynnal profion ac archwiliadau priodol. Daeth i’r casgliad ei bod hi’n briodol i’r Bwrdd Iechyd gyfeirio Mr C at ragor o brofion ac archwiliadau, gan fod Mr C angen llawdriniaeth oedd â risg uchel. Felly, ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen hon ar gŵyn Mr B.

Daeth archwiliad yr Ombwdsmon i’r casgliad bod oedi sylweddol yn Mr C yn derbyn y llawdriniaeth oedd ei hangen arno. Roedd o’r farn fod hyn yn fethiant gwasanaeth wnaeth achosi anghyfiawnder sylweddol i Mr C, gan ei fod yn dioddef symptomau gwanychol am gyfnod hirach na’r angen. Felly, cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen hon ar gŵyn Mr B.

O ran cyfathrebu rhwng y clinigwyr gwahanol, daeth yr archwiliad i’r casgliad fod methiant ar brydiau o ran y clinigwyr yn dehongli cyfathrebu’n gywir gan glinigwyr eraill. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y dylai fod cyfarfod penodol wedi cael ei gynnal rhwng pawb oedd ynghlwm wrth ofal Mr C. Felly, cadarnhaodd yr elfen hon ar gŵyn Mr B i raddau.

Daeth yr Ombwdsmon hefyd i’r casgliad bod methiannau cyfyngedig yn y cyfathrebu gyda Mr C a’i deulu. Ni anfonwyd llythyrau clinigau a chyfathrebu rhwng y clinigwyr gwahanol ynghlwm wrth ofal Mr C iddo.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y dylai fod clinigwr arweiniol wedi cyfathrebu gyda Mr C a’i bartner. Felly, cadarnhaodd yr Ombwdsmon yr elfen hon ar gŵyn Mr B.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd:

a) Ymddiheuro i Mr C a Mr B am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn

b) Cyflwyno taliad unioni o £750 i Mr C i gydnabod y poen meddwl a achoswyd gan y methiannau hyn

c) Adolygu a ddylid penodi clinigwr arweiniol i gyfathrebu gyda Mr C a Mr B. Dylid rhoi gwybod i’r Ombwdsmon am ganlyniad yr adolygiad hwn.

d) Rhannu’r adroddiad hwn gyda’r clinigwyr cardioleg a chardiothorasig a chadarnhau bod yr adroddiad wedi cael ei ddefnyddio at ddibenion myfyrio a dysgu critigol.