Dyddiad yr Adroddiad

04/09/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202000225

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (y Bwrdd Iechyd) wedi methu â thrin ei mam (Mrs Y) yn amserol ac yn unol ag Amseroedd Aros y Rheolau ar gyfer Atgyfeirio am Driniaeth GIG Cymru (y targedau atgyfeirio am driniaeth).

Roedd carsinoma endometriaidd (math o ganser sy’n effeithio ar leinin yr organau) gan Mrs Y. Yn yr ymchwiliad, cafwyd bod y cyfnod a gymerodd y Bwrdd Iechyd i drin Mrs Y yn hirach o lawer na’r targed atgyfeirio am driniaeth. Er hynny, nid oedd yn ymddangos bod hyn o ganlyniad i fethiant ar ran y Bwrdd Iechyd. Roedd canser Mrs Y yn gymhleth ac roedd angen gwneud nifer i archwiliadau i alluogi’r Bwrdd Iechyd i ddod i benderfyniad am yr opsiwn mwyaf priodol ar gyfer ei thriniaeth. Felly ni chadarnhawyd y gŵyn.