Dyddiad yr Adroddiad

11/03/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Trafnidiaeth Ysgol

Cyfeirnod Achos

202104900

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am ddiffyg cyfathrebu clir am drefniadau cludiant i’r ysgol y Cyngor er mwyn i’w fab fynychu’r coleg. Cwynodd hefyd fod y Cyngor wedi methu ag ymchwilio i’r materion a gododd yn ei gŵyn ynglŷn â’i fethiannau.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor heb ateb a mynd i’r afael â’r materion gwreiddiol y cwynodd Mr A amdanynt. Roedd y rhain wedi’u cynnwys mewn e-bost rhyngddo a’r Cyngor, dyddiedig 1 Medi 2021. Arweiniodd hynny at fethu ag ateb y materion a godwyd yn ystod yr ymchwiliad yng ngham 1 a 2 o’i weithdrefn gwyno.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor a chytunodd i;
a) Ail-ymweld ag e-bost yr achwynydd at y Cyngor ar 2 Medi 2021 (a nodwyd gan yr Ombwdsmon), sy’n ymddangos i roi mwy o fanylion am ei gŵyn.
b) Cysylltu â’r achwynydd dros y ffôn i gadarnhau unrhyw faterion sy’n weddill na aethpwyd i’r afael â hwy o’r e-bost ac ymchwiliad dilynol y Cyngor i’r gŵyn.
c) Ymchwilio a rhoi llythyr ysgrifenedig iddo i gwmpasu’r materion sy’n weddill.

Dylid cwblhau hwn o fewn 30 diwrnod gwaith o ddyddiad fy llythyr penderfyniad.