Dyddiad yr Adroddiad

02/06/2023

Achos yn Erbyn

Pobl

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202206812

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss F fod Pobl wedi methu â darparu ymateb i’w chwyn am gawod trydan wedi’i ffitio’n anghywir.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod Pobl wedi methu â chyhoeddi ymateb i gŵyn na darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Miss F. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Miss F. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb Pobl i ymddiheuro i Miss F, rhoi esboniad am y methiant a chyhoeddi ymateb i’r gŵyn o fewn 4 wythnos.