Dyddiad yr Adroddiad

11/23/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202105040

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am benderfyniad y Cyngor i’w symud i dŷ arall a’i fod wedi methu â’i chefnogi’n ddigonol gyda’i thenantiaeth. Dywedodd Ms X ei bod wedi cwyno i’r Cyngor ddwywaith ond nad oedd wedi derbyn ymateb i’w chwynion.

Canfu’r asesiad nad oedd gan y Cyngor unrhyw gofnod o’r gŵyn gyntaf yn cael ei gwneud. Serch hynny, mae wedi ymateb i’r ail gŵyn, y mae Ms X heb ei dderbyn.

Cytunodd y Cyngor i ail-anfon copi o’i ymateb i’r gŵyn at Ms X wrth setlo’r gŵyn.