Dyddiad yr Adroddiad

04/28/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Penfro

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202100021

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X iddo gyflwyno cwynion i’r Cyngor ar ddau achlysur ac nad oedd wedi cael cydnabyddiaeth neu ymateb ffurfiol.
Er mwyn setlo’r gŵyn, cytunodd y Cyngor i wneud y canlynol:-
Darparu ymddiheuriad i Mr X am yr oedi wrth ymateb i’r neges e-bost wreiddiol, ac esboniad o’r ffordd yr oedd y camgymeriad wedi digwydd a beth sydd wedi’i wneud i’w atal rhag digwydd eto.
Darparu ymateb i’r gŵyn wreiddiol.