Dyddiad yr Adroddiad

09/21/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202202245

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod y Cyngor wedi methu â gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol i sicrhau bod deiliach yn cael ei dorri’n ôl, ac nad oedd wedi gordyfu sy’n gallu rhwystro ffenestri. Nid yw’r ardal yn hygyrch gan ei gwneud hi’n anodd i denantiaid wneud y gwaith cynnal a chadw eu hunain. Yn ogystal, cwynodd Ms X fod y Cyngor wedi methu â mynd i’r afael yn ffurfiol â’i chŵyn.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cynghori Ms X ym mis Medi 2021 ei fod yn datblygu cynllun gwaith cynnal a chadw ac y byddai’n ei hysbysu ohono ar ôl ei gwblhau. Ar adeg cyflwyno’r gŵyn i’r Ombwdsmon, nid oedd yr wybodaeth hon wedi cael ei rannu gyda Ms X.

O ganlyniad, cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Ms X am yr oedi o ran cyfathrebu â hi, ac i’w hysbysu o’r cynllun gwaith cynnal a chadw.