Dyddiad yr Adroddiad

05/27/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202200699

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod y Cyngor wedi methu â chymryd camau i ddelio â’r problemau a oedd ganddi gyda llwydni yn ei chartref. Codwyd y gŵyn yn ffurfiol i ddechrau gyda’r Cyngor ym mis Mawrth 2022 ond ar yr adeg pan gysylltodd â’r Ombwdsmon nid oedd wedi cael ymateb.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y Cyngor wedi cyflwyno ymateb Cam 1. Cynigiodd y Cyngor uwch-gyfeirio’r mater i Gam 2 a chytunodd i ysgrifennu at Ms X gydag ymddiheuriad a chadarnhau’r uwch-gyfeirio erbyn 7 Mehefin 2022.