Dyddiad yr Adroddiad

07/05/2021

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Siarter (rhan o'r Grŵp Pobl)

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202100028

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X nad oedd y Gymdeithas wedi gwneud y gwaith atgyweirio angenrheidiol i’w heiddo ac nad oedd wedi ymateb yn brydlon i’w chŵyn.

Roedd yr Ombwdsmon yn poeni am yr oedi sylweddol yr oedd Miss X wedi’i wynebu o ran cael gwaith atgyweirio wedi’i wneud, yr oedi cyn cael ymateb a bod gweithredoedd y sefydliad wedi achosi anhwylustod iddi.

Dywedodd y Gymdeithas nad oedd yn gynaliadwy iddi wneud y gwaith atgyweirio angenrheidiol a’i bod bellach wedi cynnig eiddo arall i Miss X, gyda’r Gymdeithas yn talu’r costau symud. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad a hefyd ceisiodd a chafodd gytundeb y Gymdeithas i wneud y canlynol o fewn 2 wythnos:

· Rhoi ymddiheuriad ffurfiol i Miss X am yr oedi wrth ymateb i’w chwynion

· Rhoi esboniad i Miss X am yr oedi

· Rhoi ymateb ffurfiol i’w chŵyn i Miss X

· Cynnig iawndal o £250 i Miss X i gydnabod yr amser a’r drafferth a achoswyd iddi wrth iddi orfod cwyno i’r Ombwdsmon am y methiannau a nodwyd

· Ymrwymo i adolygu hanes cwyn Miss X er mwyn sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu, a bod staff yn cael eu hyfforddi i atal hyn rhag digwydd eto yn y dyfodol