Dyddiad yr Adroddiad

07/29/2021

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Rhondda

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202100017

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Cymdeithas Tai Rhondda Cyf (“y Gymdeithas”) wedi ysgrifennu ato yn dilyn cwyn a dderbyniodd ac wedi gwneud cyhuddiadau amdano yr oedd ef yn dweud ei fod yn ddieuog ohonynt. Dywedodd nad oedd wedi gwneud dim i dorri ei gytundeb tenantiaeth. Cwynodd Mr X hefyd nad oedd y Gymdeithas wedi ymateb i’w lythyrau cwyno.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus am yr oedi a brofodd Mr X o ran cael ymateb i’r gŵyn a bod y diffyg gweithredu gan y Gymdeithas wedi achosi anhwylustod iddo.

Dywedodd y Gymdeithas wrth yr Ombwdsmon y byddai canlyniad achos Mr X yn dibynnu ar wrandawiad llys yn gysylltiedig â digwyddiad yn ymwneud â Mr X a’i gymydog, a oedd i fod i gael ei gynnal ym mis Awst 2021. Yn unol â hynny, ni allai’r Ombwdsmon ystyried materion a oedd yn rhan o achos llys. Mewn perthynas â’r mater delio â chwynion, ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i:

· Rhoi ymateb ffurfiol i Mr X i’w gŵyn o fewn 2 wythnos i’r Gwrandawiad Llys, a oedd i fod i gael ei gynnal ym mis Awst 2021.

· Rhoi gwybodaeth i Mr X am y broses gwyno ffurfiol, gan gynnwys y camau gweithredu arfaethedig a amlinellir uchod, o fewn 2 wythnos i ddyddiad llythyr yr Ombwdsmon.