Dyddiad yr Adroddiad

02/17/2022

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Newydd

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202106630

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss C fod Cymdeithas Dai Newydd wedi methu â delio â chwynion roedd hi wedi eu codi am ymddygiad gwrthgymdeithasol, pryderon iechyd a diogelwch a niwsans sŵn.

Nododd yr Ombwdsmon nad oedd Cymdeithas Dai Newydd wedi ymchwilio i bryderon Miss C nac wedi darparu ymateb i’r gŵyn.
Cytunodd Cymdeithas Dai Newydd i gymryd y camau canlynol:
a) O fewn 10 diwrnod gwaith, ysgrifennu at Miss C a chynnig cyfle iddi fynegi ei phryderon a chyflwyno cwyn ffurfiol.
b) Ar ôl derbyn cwyn Miss C, darparu ymateb ysgrifenedig llawn i’r gŵyn. Bydd hyn yn cael ei wneud o fewn 15 diwrnod gwaith.