Dyddiad yr Adroddiad

01/03/2023

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202206315

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr B fod Cymdeithas Dai Hafod wedi rhoi gwybod i’r Ombwdsmon nad oedd wedi gwneud cwyn iddi ond ei bod wedi rhoi ymateb i’w gŵyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi rhoi gwybodaeth anghywir i’w Swyddfa hi ac wedi cyfeirio Mr B yn gynamserol i gwyno i’w Swyddfa hi cyn iddo dderbyn ymateb llawn a therfynol i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac anhwylustod i Mr B. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwilio.

Gofynnodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i ymddiheuro wrth Mr B, rhoi ymateb llawn a therfynol i’w gŵyn a thalu iawndal o £50 iddo, o fewn chwe wythnos.