Dyddiad yr Adroddiad

06/09/2022

Achos yn Erbyn

Cartrefi Conwy

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202200816

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Gymdeithas wedi methu â sicrhau bod mesurau lleddfu sŵn yn eiddo ei gymydog a bod hynny wedi achosi problemau gyda niwsans sŵn.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr X wedi cael eglurhad am benderfyniad y Gymdeithas, a chysylltodd â’r Gymdeithas.

Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, cytunodd y Gymdeithas i roi eglurhad ysgrifenedig am ei phenderfyniad i Mr X erbyn 30 Mehefin 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel ffordd o ddatrys cwyn Mr X.