Dyddiad yr Adroddiad

11/17/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Sŵn a materion niwsans arall

Cyfeirnod Achos

202203972

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr M am nad oedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi gweithredu toramod Hysbysiad cynllunio ac amgylcheddol a thrwy hynny wedi mynd yn groes i’w rwymedigaeth statudol.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi diystyru cwyn Mr M a wnaed drwy ei wefan.

Cytunodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor y byddai’n rhoi blaenoriaeth i’r mater ac yn cyhoeddi ymddiheuriad ac ymateb o fewn 4 wythnos.