Dyddiad yr Adroddiad

12/10/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Sŵn a materion niwsans arall

Cyfeirnod Achos

202103608

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs M fod y Cyngor wedi methu â chymryd camau i liniaru sŵn yn dod o eiddo cyfagos iddi. Roedd eisiau i’r Cyngor dalu am a threfnu i osod carpedi, underlay ac estyll ‘gwrthsain’ a’i bod yn deall bod hyn wedi’i wneud mewn tai eraill a brofodd broblemau tebyg gyda sŵn yn treiddio’n hawdd iddynt.

Casglodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi ymchwilio i’r sŵn a barnu nad oedd yn gyfystyr â niwsans sŵn statudol. Roedd y sŵn o ganlyniad i weithgareddau teuluol arferol mewn eiddo cyfagos er bod y sŵn, yn anffodus, yn fwy eglur i Mrs M oherwydd oed y tai a’r deunyddiau a’r arferion adeiladu gwreiddiol a ddefnyddiwyd pan godwyd hwynt. Heb adnabod unrhyw niwsans statudol, nid oedd gan y Cyngor ddyletswydd i wneud unrhyw beth, er bod carpedi ac underlay wedi eu gosod yn yr eiddo cyfagos ers i Mrs M gwyno.

Nid oedd gan y Cyngor ddyletswydd i gynnig mesurau ‘gwrth-sain’ i berchnogion tai preifat ac nid oedd yn wasanaeth cyhoeddus yr oedd yn ei ddarparu. Fodd bynnag, casglodd yr Ombwdsmon fod e-bost a anfonwyd at Mrs M wedi codi ei gobeithion yn afresymol y gallai mesurau o’r fath fod ar gael iddi.

Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro am beidio â rhoi sylw a chywiro’r camddealltwriaeth hwn yn glir na’n uniongyrchol ac i roi adborth i’r staff perthnasol ar bwysigrwydd sicrhau bod unrhyw gyfathrebu â defnyddwyr gwasanaeth ac achwynwyr yn glir ac nad yw’n codi gobeithion yn afrealistig cyn cytuno ar ddarparu gwasanaeth.