Dyddiad yr Adroddiad

01/12/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Pwnc

Sŵn a materion niwsans arall

Cyfeirnod Achos

202105036

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am fethiant y Cyngor i ddelio â’i gais am gymorth wrth fynd i’r afael â’r problemau a achoswyd gan goed sy’n ffinio â’i gymydog. Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi pasio ymholiad Mr X at awdurdod lleol cyfagos drwy gamgymeriad, ac ni chymerodd unrhyw gamau gan nad oedd y mater o fewn eu cylch gorchwyl. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Roedd yr Ombwdsmon wedi gofyn i’r Cyngor ymddiheuro i Mr X, o fewn 20 diwrnod gwaith, am fethu â phrosesu ei gais yn iawn a chytunodd y Cyngor i hynny. Cytunodd y Cyngor hefyd i egluro ei bolisi a’i weithdrefn mewn perthynas â Chloddiau Uchel, gan gynnwys cadarnhad o unrhyw ffi berthnasol a manylion unrhyw wybodaeth bellach yr oedd ei hangen wrth Mr X.